![]() |
|
![]() |
Llwybr Beicio Cenedlaethol 8: Llwybr TafMae llwybr amgen Lôn Las Cymru yn dilyn 55 milltir o Lwybr Taf o ganol Caerdydd i Aberhonddu. Oddi yno, mae'n mynd am y dwyrain ar hyd ffyrdd tawel gan fynd trwy Dalgarth, Felindre ac yn olaf y Clas ar Wy, lle y bydd yn ymuno â llwybr 42 ar lannau Afon Gwy. Ei fantais yw'r ffaith mai dyma lwybr oddi ar y ffyrdd, sydd yn dilyn hen reilffordd ar hyd glannau Taf o ganol y ddinas i gyrion Merthyr Tudful ac yna allan i'r mynyddoedd agored ger Torpantau. Yno bydd yn dringo allan o Gwm Taf ac yn disgyn yn hawdd ar hyd hen reilffordd Merthyr-Aberhonddu i mewn i ddyffryn hardd Afon Wysg yn agos i bentref bach Tal-y-Bont. Mae'n cwrdd â Chamlas Brycheiniog a Gwent wrth lifddor Brynich ac yna mae'n dilyn yr hen llwybr halio yn hawdd i ganol Aberhonddu. Mae'r arwyneb yn dda bob cam o'r daith ac mae llawer o leoedd i aros ar hyd y ffordd os nad yw gwneud y cyfan mewn dirwnod yn apelio. Gan ddefnyddio Bws y Bannau cewch deithio i Aberhonddu gyda'ch beic yn dilyn ar y tyngerbyd, ac yna cewch feicio'n ôl i Gaerdydd. |
|
|
|
|