Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Teithiau Beicio
 Teithiau Beicio

Llwybr Beicio Cenedlaethol 42: Lôn Las Cymru

Gan gychwyn yn Nhas-gwent ar lannau Afon Hafren, mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 42, Lôn Las Cymru, yn cyrraedd y Parc Cenedlaethol ger tref farchnad brysur y Fenni, sydd yn fan aros delfrydol cyn cychwyn ar y ddringfa gyson i mewn i'r Mynyddoedd Duon godidog.

Gan adael Afon Wysg y tu ôl i chi, mae'r llwybr yn dilyn lonydd gwledig tawel i mewn i Ddyffryn Ewyas hardd ac yn mynd yn agos i adfeilion rhamantaidd Priordy Llanddewi Nant Hodni, a fu'n ffefryn llawer o artistiaid, gan gynnwys Turner.

Mae mwy o lonydd llonydd yn mynd am y gogledd i bentrefyn bychan Capel-y-ffin, lle mae'r llwybr yn dringo allan i'r mynyddoedd agored am y ddringfa olaf i fyny i Fwlch yr Efyngyl, 542m (1,778 o droedfeddi) o uchder, sydd yn cynnig golygfeydd cyfareddol ar draws tiroedd isel Dyffryn Gwy. O fan hyn, mae'r llwybr yn disgyn yn hawdd i'r Dyffryn i ymuno â Llwybr Beicio Cenedlaethol 8 yn y Clas ar lannau afon fawreddog Gwy.

Priordy Llanddewi Nant Hodni
Priordy Llanddewi Nant Hodni


Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0