Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Beicio i'r Teulu
 Beicio i'r Teulu

Cronfa Ddŵr Wysg a Choedwig Glasfynydd

Ym amgylchynu Cronfa DdÎr Wysg, yng nghornel anghysbell gogledd-orllweinol y Parc Cenedlaethol, mae Coedwig Glasfynydd yn cynnig llwybr beicio mynydd teulu ardderchog 9km (6 milltir) o hyd a hefyd man picnica bach ond delfrydol ei leoliad.

Mae'r Gronfa Ddŵr yn swatio rhwng ucheldir moel Mynydd Myddfai a Mynydd Wysg ac mae'n ddelfrydol am olygfeydd godidog o eangderau dramatig Bannau Shir Gâr.

Mae'r llwybr yn galetach na Llwybr Garw-nant - yn troi'n lleidiog mewn mannau mewn tywydd gwlyb ac yn defnyddio rhan fer o'r ffordd wrth argae'r Gronfa Ddŵr. Wedi dweud hynny, mae'n her ardderchog i blant o bum mlwydd oed ymlaen ac mae'n debygol o gymryd tuag awr a hanner i'w gwblhau heb arosiadau.

Mae'n weddol anghysbell, felly yr ateb gorau am ginio yw picnic. Fel arall mae pentref Trecastell lai na 5 milltir i ffwrdd.

Agor Llwybr Beicio Mynydd Teulu Cronfa Ddwör Wysg.
Agor Llwybr Beicio Mynydd Teulu Cronfa Ddwˆr Wysg.


Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0