Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Beicio i'r Teulu
 Beicio i'r Teulu

Cronfa Ddŵr Tal-y-Bont

Taith i'r teulu mwy egnïol, sydd yn dilyn rhan ddi-drafnidiaeth o Lwybr Taf o argae Cronfa Ddŵr hyfryd Tal-y-Bont, lle mae gwersyll a digon o le am barcio i fyny i fan picnica Torpantau.

Mae'r llwybr yn dilyn hen linell Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Railway gan ddringo'n gyson trwy'r goedwig am dros 5 milltir i gwrdd â ffordd dawel y rhostir uwchben Blaen-y-Glyn. Mae'r man picnica yn y maes parcio ar ochr arall y ffordd, lle y byddwch o bosibl am gerdded i lawr rhyw ychydig i weld rhai o'r rhaeadrau niferus yn y goedwig (cofiwch fynd â'ch clo os yn gadael eich beic).

Os bydd taith gyfan o 11o filltiroedd ychydig yn drech na chi, dim ots: dilynwch y daith allan mor bell ag y gallwch ac yna trwoch i hwylio'n hamddenol i lawr y rhiw bob cam i lannau'r Gronfa Ddŵr.

Beicio i'r Teulu
Beicio i'r Teulu


Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0