Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Beicio i'r Teulu
 Beicio i'r Teulu

Llwybr Taf i Lifddor Brynich

Mae rhan ddi-drafnidiaeth hon o Lwybr Taf yn dechrau o Gafn y Gamlas, yn Aberhonddu, ar hyd llwybr halio wyneb caled Camlas Brycheiniog a Gwent am 3 milltir hawdd i'r llifddor gyntaf ym Mrynich.

Mae byrddau picnic ar lan y llifddor a rhai eraill dau ganllath i ffwrdd ar ochr arall y lôn.

Cadwch lygad allan am fywyd gwyllt wrth ichi deithio'n hamddenol ar lannau'r gamlas. Yn ogystal â'r hwyaid amlwg, cewch gyfle i weld llawer o fathau o Was y Neidr ac ambell i Grechydd neu Las y Dorlan. Yn ogystal â'r cyfle i fwynhau'r awyr iach a'r golygfeydd hyfryd, mae modd edrych ar hwn fel taith addysgol, gan roi cyfle i'r rhai ifanc weld amrywiaeth o gychod yn esgyn ac yn disgyn yn y llifddor fach.

Cofiwch gadw rhywfaint o nerth am y daith 3 millitr yn ôl.

Llwybr Taf i Lifddor Brynich
Llwybr Taf i Lifddor Brynich


Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0