Taith E: 20 Milltir
Paradwys y Garddiwr
Ers amser maith, mae Sir Gaerfyrddin yn enwog fel Gardd Cymru a hynny am resymau da. Yn ogystal â glesni ei chefn gwlad toreithiog, mae'n gartref hefyd i harddwch Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru, sydd yn haeddu ymweliad tra y byddwch yn yr ardal.
Mae hon yn daith hir, ond mae llawer o atyniadau ar hyd y ffordd, felly cymerwch eich amser i'w wneud yn ddiwrnod cyfan allan. Dylech alw'n gyntaf yng Nghastell Dryslwyn, yn gysylltiedig unwaith â Chastell Dinefwr gerllaw fel man gwarchod ar gyfer yr ardal i gyd.
Rhowch ddigon o amser am goffi neu ginio ym Mwyty'r Teras yng Ngerddi Aberglasne, ac yno ewch ymlaen tua'r gorllewin i'r Gerddi Botanegol, gem gudd yr ardal a fydd yn gwobrwyo'ch ymweliad.
Os nad ydych wedi cael egwyl eto, cewch ginio neu fyrbryd hamddenol ym mhentre Llanarthne gerllaw cyn dychwelyd heibio ffug-dÎr rhyfedd TÎr Paxton a thrwy Barc Gwledig hyfryd Gelli Aur.
|