Taith D: 12 Milltir
Cyfrinachau'r Canoloesoedd
Mae'r daith hamddenol fyrrach hon yn cychwyn o dref liwgar Llandeilo gan arloesi cefn gwlad cornel mwyaf gorllewinol y Parc Cenedlaethol.
Yn bendant, dyma daith ddelfrydol i'r hanesydd. Mae'n mynd heibio i fryngaer fawreddog Garn Goch ac yna ymlaen am y de i Gastell Carreg Cennen, sydd â safle mwyaf trawiadol unrhyw gastell yn yr ardal, os nad yng Nghymru gyfan, ar ben ei glogwyn tri chan troedfedd o uchder. Mae'r golygfeydd o'i furiau yn gyfareddol a byddwch yn rhyfeddu am fywyd y gwarchodwyr ar ddyletswydd yn y dyddiau cynt. Ewch â golau gyda chi a chewch arloesi ogof gyfrinachol sydd yn twrio o dan y castell.
Gyda'r holl atyniadau hyn bydd rhaid ichi gymryd eich amser, felly beth am ychydig o luniaeth yn yr ystafell de ger y Castell neu dafarn ardderchog Arfau Cennen ym mhentref bychan Trapp.
|