Taith C: 19 Milltir
Balchder Y Bannau
Gan gychwyn yn Llanymddyfri, dyma daith i selogion y mynyddoedd gyda golygfeydd mawreddog ar draws ucheldiroedd mwyaf dramatig oll y Parc Cenedlaethol.
Mae esgyniad cyson yn dilyn lonydd tawel i bentref Myddfai, lle mae'r ddringfa hir go iawn i fyny i bentref bach Talsarn yn dechrau. Mae alldaith hawdd tair milltir o hyd yno ac yn ôl i fwyngloddiadau hen gaer Rufeinig, lle y ceir golygfeydd ardderchog ar draws Cronfa DdÎr Wysg. Mae'r rhan nesaf yn mynd am y gorllewin i Dwynllanan, pentrefyn bychan yng nghysgod taren ddramatig anferth Bannau Sir Gâr.
O fan hyn mae'r daith yn disgyn bob cam i lawr i Langadog, a fu'n dref bwysig yn y canol oesoedd ac sydd yn ganolfan brysur gyda llawer o dafarnau a lleoedd bwyta i ddiddanu ymwelwyr. Mae'r daith adref yn mynd dros fryn arall cyn disgyn yn hawdd yn ôl i strydoedd cul Llanymddyfri.
|