Taith B: 28 Milltir
Bryniau Euraidd
Dyma daith mwy o hyd sydd yn archwilio golygfeydd y mynyddoedd dramatig i'r gogledd o Lanymddyfri.
Mae'n cychwyn yn ddigon hawdd ar hyd lonydd tawel ar lawr Dyffryn Tywi hardd, trwy bentrefi Cilycwm a Rhandirmwyn i Bont ar Dywi, lle y bydd amdaith fer ond garw yn mynd â chi i Warchodfa Natur Dinas a golygfeydd hyfryd ar draws dyfroedd eang Llyn Brianne.
Oddi yma byddwch yn teithio tua'r gorllewin gan ddringo'r serth i uchafbwynt y daith, Bwlch-y-rhiw, ac yna'n hwylio'n hamddenol i lawr i bentref Pumpsaint, lle y byddwch o bosibl am fynd ar wibdaith i Fwyngloddiadau Aur Dolaucothi. Mae'r daith yn ôl yn mynd lan a lawr heibio ambell i ffermdy unig i bentref mynyddig nodweddiadol Cymreig Caeo lle mae tafarn ardderchog Arfau Bruant yn ddelfrydol am ychydig o ginio. Wedi'ch digoni, mae'r daith yn ôl i fwrlwm Llanymddyfri yn mynd trwy olygfeydd tebyg.
|