Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Gwyliau Beicio
 Gwyliau Beicio

Taith A: 10 Milltir
Llysiau iachaol

Gan gychwyn o dref farchnad hyfryd Llanymddyfri, mae'r daith fer hon yn dilyn ffyrdd tawel tua'r de i fewn i flaenfryniau'r Mynydd Du i ymweld â phentref bach Myddfai.

Mae Myddfai'n enwog am linell o feddygon ac iachawyr, disgynyddion honedig ‘Ferch y Llyn' chwedlonol, a ymddangosodd yn gyntaf o ddyfroedd Llyn y Fan Fach gerllaw. Mae'n ymffrostio hefyd mewn dafarn dda, man berffaith am ymlacio cyn cychwyn ar y daith yn ôl.

Gan aros ar y lonydd tawel, mae'r daith hon yn gadael Myddfai, gan ddringo'n serth i fyny i bentrefyn bach Bryn y Myrtwydd, lle y ceir golygfeydd ardderchog dros mynyddoedd cyfareddol Bannau Sir Gâr. Oddi yno, i lawr i Ddyffryn Ydw sydd ond un ddringfa olaf i ffwrdd o ddyffryn hardd Tywi i fwynhau lluniaeth haeddiannol yn ôl yn Llanymddyfri.

Llewelyn ap Gryffydd
Llywelyn ap Gruffydd


Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0