Taith E: 52 Milltir
Priordy Llanddewi Nant Hodni a Bwlch yr Efengyl
Dyma'r daith hwyaf a mwyaf gwydn yn y pecyn i gyd, taith dau ddiwrnod anhygoel sydd yn gyflwyniad perffaith i'r beiciwyr mwy egnïol.
Mae'n cychwyn yn ddigon hawdd, gan ddilyn ffyrdd tawel a lonydd culion ar hyd Dyffryn Afon Wysg o Aberhonddu i dref hynafol Crughywel. Oddi yno, mae'n troi i fyny'n benderfynol am daith i fewn i galon y Mynyddoedd Duon mawreddog.
Nid yw'r daith mor serth ac y byddech yn disgwyl, gyda'r unig ddringfa yn esgyniad cyson i fyny o Grughywel trwy Ddyffryn Ewyas hardd i Fwlch yr Efengyl mawreddog 542 metr uwchben y môr. O'r fan honno, mae'n daith hawdd i lawr y rhiw i Ddyffryn Gwy a daith ddymunol ar ffyrdd tawelach yn ôl i Aberhonddu.
Gyda chymaint i'w gweld a ddewis ardderchog o lety sydd yn gyfeillgar i feicwyr yn yr ardal, beth am fentro ar benwythnos go iawn?
|