Taith D: 22 Milltir
Sarn Helen a Ffyrdd y Rhufeiniaid
Gadawodd y Rhufeiniaid lawer o olion ar dirwedd y Parc Cenedlaethol ac mae'r daith bleserus hon sydd yn serth mewn mannau yn cysylltu Aberhonddu a thref fach Pontsenni, yn cynnig cyfle i ymweld â rhai o'r mwyaf arwyddocaol.
Yn ogystal â dilyn rhan fer o Sarn Helen yr enw am rai o briffyrdd y Rhufeiniad yng Nghymru o Gaernarfon i Gaerfyrddin - mae'n mynd yn agos i olion y Gaer Rufeinig ger Aberysgir, a adeiladwyd mor bell yn ôl â 80OC fel canolfan i uned o 500 o farchfilwyr, ac mae'n ymweld hefyd ag eglwys sydd â charreg ag arysgrifau ogam Gwyddeleg a Lladin y Rhufeiniaid.
Dylai cinio canol dydd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol fod yn ddigon o atyniad i'ch cael chi i fyny'r rhiwiau hynny, ac os nad yw hynny'n ddigon, cewch fwynhau rhai o olygfeydd gorau oll yn y Parc Cenedlaethol o gopa'r daith.
|