Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Gwyliau Beicio
 Gwyliau Beicio

Taith C: 26 Milltir
I ben Cronfa Ddŵr Tal-y-Bont

Gan gychwyn ar Gamlas Gwent a Brycheiniog, mae'r daith mwy egnïol hon yn dilyn arwyddion Llwybr Taf trwy bentrefi bychain Llanfrynach, Pencelli a'r Aber hyd at lannau prydferth eangderau mawreddog Cronfa DdÎr Tal-y-Bont.

O hyn ymlaen mae'n croesi'r argae hardd i ddilyn llinell hen reilffordd Aberhonddu a Merthyr ar ddringfa raddol ond hir i fyny trwy'r goedwig. Mae'r golygfeydd heb eu hail: o dan eich traed dyfroedd helaeth y gronfa ddÎr, gyda llethrau serth coediog y cwm yn arwain eich llygaid yn hawdd i olygfa ddramatig copaon uchaf oll y Parc Cenedlaethol.

Mae man picnica ym Mlaen-y-glyn, ar hanner y ffordd o gwmpas y daith, sydd yn ddelfrydol am ail-lenwi'ch lefelau o ynni am y daith yn ôl. Fel arall bydd dargyfeiriad bychan yn mynd â chi i mewn i bentref pert Tal-y-Bont i fwynhau lletygarwch un o nifer o dafarnau neu'r siop de.

Hanner ffordd o gwmpas
Hanner ffordd o gwmpas



Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0