Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Gwyliau Beicio
 Gwyliau Beicio

Taith B: 16 Milltir
Ar lannau Llyn Safaddan

Nid nepell o Aberhonddu y mae Llyn Safaddan, y llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru, a'r ail lyn naturiol o ran faint yng Nghymru gyfan.

Dyma gynefin pwysig ar gyfer bywyd gwyllt y dyfroedd megis adar a gweision y neidr ac mae'n llecyn hyfryd i dreulio ychydig o oriau ar ddiwrnod o haul yn yr haf.

Mae'r daith ganolig o ran hyd hon yn dilyn ffyrdd hawdd yn bennaf o Aberhonddu i bentref Tal-y-llyn, lle y bydd yn mynd o amgylch y llyn trwy nifer o bentrefi bychain. Cewch gyfle i ymweld â'r guddfan gwylio adar yn Llangasty Tal-y-llyn a'r safle picnic ar lan y llyn ger Llangors, a hefyd i bigio i rai o'r llu o dafarnau dymunol ar y ffordd.

Mae taith fyrrach yn bosibl hefyd trwy gychwyn o brif faes parcio glan y llyn lle y cewch hurio beiciau, a gwneud y gylchdaith o'r fan honno.

Llangasty Talyllyn
Llangasty Talyllyn



Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0