Beicio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 Gwyliau Beicio  Beicio i'r Teulu  Teithiau Beicio  Beicio Mynydd
 Gwyliau Beicio
 Gwyliau Beicio

Taith A: 6 Milltir
Llifddor Brynich a Chamlas Gwent a Brycheiniog

Taith hawdd sydd yn dilyn rhan o Lwybr Taf sydd yn ddi-drafnidiaeth ag wyneb da ganddi o Gafn y Gamlas, yn Aberhonddu, i'r safle picnic prydferth ger Llifddor Brynich.

Gall teuluoedd aros yma i fwynhau eu cinio tra'n gwylio'r cychod cul yn esgyn a disgyn ar ddyfroedd y llifddor ar yr hyn a fu unwaith yn gamlas brysur iawn. Mae'r gamlas yn croesi Afon Wysg ar ddyfrbont fawreddog pedwar bwa daith fer ymhellach ymlaen. Cadwch lygad allan am Las y Dorlan a llawer o fathau o Was y Neidr ar hyd y daith.

Gall pobl heb blant ddewis fynd ymlaen am filltir arall ar hyd lonydd tawel cefn gwlad i fwynhau cinio ardderchog yn nhafarn yr Alarch Wen yn Llanfrynach.

Cewch ddod yn ôl ar hyd yr un ffordd, ond os hoffech losgi mwy o egni cewch ddringo trwy Gantref ac felly'n ôl i Aberhonddu Bydd hyn yn ychwanegu tua bedair milltir i'ch diwrnod.

Llifddor Brynich
Llifddor Brynich



Valid XHTML 1.0! Valid CSS! Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0