Sut i Gyrraedd
Cewch ddod i'r Parc Cenedlaethol gyda'ch beic mewn car, ar y trên neu drwy ddefnyddio Bws Beiciau Caerdydd Bws y Bannau. Neu cewch arbed y ffwdan a hurio beic ar ôl ichi gyrraedd.
Car
Llwythwch y beic ar gefn y car ac yna parciwch y car ger eich llety tra'n mwynhau'r heddwch a thawelwch ar eich beic. Dyluniwyd yr Egwyliau Beicio a'r Llwybrau Beicio Mynydd yn arbennig i redeg allan o fothau beicio' sydd yn cynnig yr holl gyfleusterau y bydd eu hangen arnoch chi (fel arfer yn cynnwys busnesau trwsio a hurio beiciau) a hefyd ystod dda olety a lleoedd i fwyta. Dim gyrru car nes ichi fynd adref!
Trên
Mae modd cludo beiciau ar drenau ond mae'n bosibl y bydd rhaid ichi sicrhau lle ymlaen llaw. Does dim rhaid bwcio trenau o Gaerdydd i mewn i'r Cymoedd (i Rymni a Merthyr Tudful yn arbennig). Mae llawer â cherbyd nwyddau o hyd - gweler yr amserlen. Daliwch y trên i'r Fenni, Llandeilo neu Lanymddyfri a beicwch ymlaen oddi yno.
Bws y Bannau
Mae Bws y Bannau yn rhedeg ar Suliau a Gwyliau Banc yn ystod tymor yr haf o 6 chanolfan yn Ne Cymru. Mae gwasanaeth Caerdydd yn cynnig tyngerbyd i feiciau a chewch ei ddefnyddio i gyrraedd Garw-nant neu Aberhonddu gyda'ch beic. Oddi yno cewch deithio'n hamddenol i lawr llwybrau'r Gwyliau Beicio am y diwrnod, mynd â'r teulu i holl gyfleusterau Coedwig Garw-nant, beicio'n ôl i Gaerdydd oddi ar y ffordd ar Lwybr Taf neu losgi ynni ar y llwybrau beicio mynydd. Ac ar derfyn dydd cewch y bws i fynd â chi adref.
Mae'r tudalennau Cludiant o fewn prif wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rhoi mwy o fanylion ar sut i deithio o gwmpas yr ardal.
|